Hyrwyddo a Chymdeithasol.
Cynhyrchwn amrywiaeth o ddeunydd hyrwyddo i'ch helpu i farchnata eich busnes, cynnyrch a gwasanaethau. Gellir gwneud hyn fel prosiectau unigol, neu drwy ein model tanysgrifio. Gweithiwn yn agos gyda chi i ddylunio asedau ‘bespoke’ sy’ wedi’u brandio ar gyfer eich sianeli cymdeithasol a’ch cynulleidfaoedd – o ffilm ac animeiddio i ffotograffau a graffeg.

Cynhyrchu

-
Ffilmio proffesiynol a ffotograffiaeth
-
Effeithiau gweledol (VFX) a graffeg
​
Cyn-gynhyrchu

-
Adnabod cynulleidfaoedd
-
Gosod nodau
-
Mapio sianeli
-
Strategaeth marchnata
Ôl-gynhyrchu

-
Golygu ac animeiddio proffesiynol
-
Ymgorffori elfennau brand gweledol
-
Optimeiddio a darparu asedau

Cyfleu asedau
Mae ein dealltwriaeth o lwyfannau digidol yn eang. I sicrhau bod eich fideo hyrwyddo yn ymgysylltu gyda’ch cleientiaid, gallwn ei gyflwyno gyda chymarebau amrywiol i weddu i’ch anghenion penodol.
​
Gallwn optimeiddio ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu sianeli digidol eraill. Ein nôd yw darparu deunydd amlbwrpas ac effeithiol i chi, sy'n rhanadwy ar draws gwahanol lwyfannau ac yn ymgysylltu â'ch cynulleidfa darged yn effeithiol.
Drôn.
Darganfyddwch ragoriaeth ein gwasanaethau awyrluniau a ffilmio a hwylusir gan dronau blaengar a gweithredwyr medrus. Mae ein gweithredwr wedi'i drwyddedu ac mae gennym yswiriant cynhwysfawr, gan sicrhau ein bod yn dal eich lluniau o'r awyr mewn modd diogel a gofalus
%20copy%203_edited.png)






